SL(5)417 – Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r gofynion ar gyrff llywodraethu ysgolion yn Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011 i osod targedau mewn perthynas â disgyblion Cyfnod Allweddol 4.

Gweithdrefn

Negyddol.

Materion technegol: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae’r rhaglith i’r Rheoliadau yn nodi’r pwerau galluogi a ganlyn, adrannau 19, 54(3) a (4) o Ddeddf Addysg 1997 ac adrannau 30(1) a (2) a 210 o Ddeddf Addysg 2002.

Mae’n ymddangos nad yw adran 30(2) o Ddeddf Addysg 2002 yn berthnasol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Dim ond ar yr is-adrannau perthnasol o adran 53 (Gorchmynion a Rheoliadau) o Ddeddf Addysg 1997 y dibynnir, ond dibynnir ar adran 210 (Gorchmynion a Rheoliadau) o Ddeddf Addysg 2002 yn ei chyfanrwydd. Ymddengys i’r Pwyllgor mai is-adran (7) yw’r unig is-adran yn adran 210 y mae angen dibynnu arni.

Mae paragraffau 3.11.21-22 o Statutory Instrument Practice yn nodi:-

“You should cite a provision that specifies whether the power is to be exercised by the making of Rules, Regulations, an Order or some other kind of subordinate legislation…

You should not cite provisions that merely specify the relevant Parliamentary procedure, or merely provide that the relevant powers are to be exercisable by SI.”

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae’r Llywodraeth yn cytuno nad oedd yn angenrheidiol enwi paragraff (2) o adran 30 o Ddeddf Addysg 2002. Ym mhob ffordd arall, enwir y vires angenrheidiol. Nid ydym o’r farn y bydd enwi paragraff (2) yn adran 30 yn camarwain darllenwyr y Rheoliadau ac felly nid yw’r Llywodraeth yn bwriadu cymryd unrhyw gamau pellach.

 

Mewn perthynas ag enwi adran 210 o Ddeddf 2002, mae’r Llywodraeth wedi ei bodloni bod hyn yn gywir, er bod y Llywodraeth yn cytuno nad oedd ond yn angenrheidiol enwi paragraff (7) o’r adran honno.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

12 Mehefin 2019